エピソード

  • Pennod 5 - Sgwrs efo Sara Mai
    2025/07/16
    Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

    Therapydd a hyfforddwr personol o Ynys Môn ydy Sara Mai sy’n cyfuno’r ddau sgil i gynnig seicffit, math o therapi sy’n defnyddio ymarfer corff i helpu ni siarad. Yn y bennod hon bydd Alaw a Sara yn trafod pwer ymarfer corff a symyd, y pwysigrwydd o beidio cymharu ein hunain âg eraill, bywyd mewn degawdau a fersiwn newydd o’r gân pen, ’sgwydda, coesa’, traed…
    続きを読む 一部表示
    45 分
  • Pennod 4 - Sgwrs efo Dr Eleri Jones
    2025/07/02
    Croeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny?

    Seicolegydd Chwaraeon a darlithiwraig ym Mhrifysgol Bangor ydi Dr Eleri Jones.

    Yn y bennod hon bydd Alaw ac Eleri yn sgwrsio am bethau fel; be ydi seicoleg chwaraeon a sut y gallwn ni gyd elwa ohono. Sut mae bod yn rhan o dîm yn chwarae rôl mewn bywyd bob dydd? A pwysigrwydd y petha' allwn ni ei wneud, ermwyn ‘nabod ein hunain yn well.
    続きを読む 一部表示
    45 分
  • Pennod 3 – Sgwrs efo Mark Williams
    2025/06/04
    Mark Williams, neu Mark LIMB-Art fel mae rhan fwyaf o bobl yn ei ’nabod o, ydy’r unigolyn ysbrydoliedig sydd, ynghyd â’i wraig Rachel, tu ôl i’r cwmi LIMB-Art. Dylunio gorchuddion coes prosthetig lliwgar a llawn cymeriad mae’r cwmni, ac mae ysbryd positif, cefnogol ac uchelgeisiol Mark, sydd hefyd yn gyn-nofiwr paralympaidd, yn disgleirio trwy’r gwaith – a thrwy’r bennod arbennig hon hefyd. Dyma sgwrs i ysbrydoli, i ail-feddwl sut mae rhywun yn edrych ar fywyd ac i gofio – mai bod yn glên ydi un o'r pethau pwysicaf yn y byd.
    続きを読む 一部表示
    45 分
  • Pennod 2 - Sgwrs efo Rhys Yaxley
    2025/05/21
    Mae Rhys Yaxley o ardal Glyn Dyfrdwy yn berson sy’n hoffi cerddoriaeth, cymdeithasu ac antura. Wrth ei waith mae’n seicotherapydd sy’n treulio rhan fwyaf o’i amser yn gweithio efo cartrefi plant. Yn y bennod hwyliog hon, bydd Rhys ac Alaw yn sgwrsio am bethau fel pŵer cerddoriaeth, pwysigrwydd gwthio ein hunain i wneud pethau anghyfforddus, be ydi rhyddid a pam y bysa Rhys y person gwaetha’ i’w herwgipio…

    Ewch i'n gwefan www.nerthdyben.cymru i ddarganfod mwy am ein gwaith
    続きを読む 一部表示
    35 分
  • Pennod 1: Sgwrs efo Elin Crowley
    2025/05/07
    Aritst a Mam i dri o blant ydi Elin Crowley o Fachynlleth.

    Yn y bennod hon bydd Alaw ac Elin yn sgwrsio am bob math o bethau yn cynnwys: trystio dy reddf a gwybod be sy’n dda i chdi, y broblem efo’r diwydiant iechyd a lles ac ymgyrch i ddod a troi fyny ar stepan drws pobl yn ôl!

    www.nerthdyben.cymru
    続きを読む 一部表示
    37 分
  • Croeso nôl i Nerth dy Ben!
    2025/04/29

    Dan ni’n ôl (ac yn ecsaited IAWN am y peth). Ar ôl amser gwerthfawr tu ôl i’r llen yn meddwl, sgriblo a chynllunio (efo Swyddog Datblygu newydd – iei!) dan ni’n barod i’ch croesawu chi’n nôl efo cyfres podlediad newydd sbon: Byw ar dy Ora’!
    Yn y bennod hon bydd Enlli, ein Swyddog Datblygu yn holi Alaw, ein syflaenydd am egin Nerth dy Ben, be sy’n dod nesa a be i ddisgwyl yn y gyfres newydd o bodlediadau!


    I wybod mwy am waith Nerth dy Ben ewch am dro i'n gwefan : www.nerthdyben.cymru
    続きを読む 一部表示
    18 分