エピソード

  • Trelech a'r Beili - Golygfa 11 Penygroes
    2021/05/26
    Ar dir comin ger Penygroes, ymhell o helynt y pentref, mae un teulu bach wedi cael diwrnod prysur iawn yn hela a’n creu pob math o grefftau i’w gwerthu. Maen nhw’n eistedd o gylch y tân yn gwylio’r watsh arian (y lleuad i chi a fi) yn dringo fry i’r awyr uwchben.
    続きを読む 一部表示
    1 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 10 Ysgol Trelech
    2021/05/26
    Ar iard Ysgol Trelech, roedd y plant yn mwynhau chwarae. Cymraeg oedd iaith y chwarae, er mai Saesneg oedd iaith y dosbarth.
    続きを読む 一部表示
    3 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 9 Fferm Hafodwenog
    2021/05/26
    Ar Fferm Hafodwenog, mae David Evans wedi bod yn brysur iawn yn aredig y tir a’i ferch, Elisabeth, wedi godro, golchi’r dillad ac wedi pobi bara ffres i de. Mae Sophia, ei wraig, newydd ddod nôl o’r siop ac ar fin dechrau gwneud te i’w gŵr blinedig.
    続きを読む 一部表示
    3 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 8 Ffynnondafolog
    2021/05/26
    Mae’n 1 o’r gloch y prynhawn ac mae Mr Stevens a’i griw newydd adael fferm Ffynnondafolog. Mae ei wyneb fel taran am bod ffarmwr arall wedi gwrthod talu ei ddyled. Mae Mr Stevens yn dechrau difaru iddo ddod i blwyf Trelech a’r Betws y diwrnod hwnnw.
    続きを読む 一部表示
    3 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 7 Y Sgwâr
    2021/05/26
    Mae’n 10 o’r gloch ac ar sgwâr y pentref, y tu allan i Gapel-y-Graig a siop Rock Hall, mae criw o gymdogion yn trafod rhywbeth pwysig. Mae aderyn bach newydd ddweud wrthyn nhw bod Mr Stevens, y beili sy’n gyfrifol am gasglu dyledion y Degwm, ar ei ffordd o Gaerfyrddin i Drelech gyda’i weision – a 70 o blismyn!!
    続きを読む 一部表示
    4 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 6 Green Hall
    2021/05/26
    Yn nhŷ Green Hall, cartref y clocsiwr lleol, mae Anna Morgan a’r plant ar fin gadael y tŷ i gerdded y 2 filltir i Ysgol Trelech. Mae Thomas, ei gŵr, wrthi’n brysur yn creu clocsiau newydd yn y gweithdy.
    続きを読む 一部表示
    1 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 5 Felin-newydd
    2021/05/26
    Yn Felin-newydd, ar lan afon Cynin, mae’r rhod ddŵr yn llonydd. Dyw Caleb James, y melinydd, heb ddechrau ar waith y dydd. Mae Rachel, ei wraig, yn brysur yn paratoi brecwast i bawb cyn mynd â’r plant i’r ysgol.
    続きを読む 一部表示
    2 分
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 4 Rock Hall
    2021/05/26
    Yn Rock Hall, y siop leol, mae Mr John Evans a’i deulu yn edrych mlân at ddiwrnod prysur iawn ac Anne Davies, y forwyn fach, yn paratoi brecwast i bawb.
    続きを読む 一部表示
    3 分